top of page

Llandeilo - Tref yr ŵyl

Gŵyl Lên Llandeilo (bob mis Ebrill)

Mae’r ŵyl yn rhaglen pedwar diwrnod o ddigwyddiadau llenyddol sy’n cael ei chynnal ddiwedd pob Ebrill.

Yn ystod yr ŵyl bydd darlleniadau, trafodaethau, gweithdai a sgyrsiau llenyddol yn cael eu cynnal ar draws Llandeilo – yn y Ginhaus, Capel Horeb, Siop Deganau Noswyl, Oriel Celfyddyd Gain y Ffynnon, Dresel Fach Gymreig, Igam Ogam, The Hangout, Oriel Gelf Mimosa, Y Bwthyn a thafarn yr Angel.

 

llandeilolitfest.org

Gŵyl Gerdd Llandeilo (bob Gorffennaf)

Mae’r ŵyl gerddoriaeth yn mynd o nerth i nerth, ac enw da yr Ŵyl yn denu artistiaid o’r radd flaenaf i’r dref farchnad fechan hon yng Ngorllewin Cymru. Dros y blynyddoedd mae wedi ennill parch a chymeradwyaeth feirniadol gan y rhai sy’n hoff o gerddoriaeth o bob rhan o’r wlad, gan ddenu cynulleidfaoedd brwdfrydig i’r gwahanol leoliadau ar gyfer cyngherddau a datganiadau, y cyfan wedi’u nodweddu gan waith cynllunio rhaglenni dychmygus y Cyfarwyddwr Artistig. 

 

llandeilomusicfestival.org.uk

Gŵyl Jazz Llandeilo (bob Gorffennaf)

Yn benwythnos llawn hwyl i’r teulu, mae Jazz yn Llandeilo yn cynnwys rhestr o artistiaid enwog a newydd o bob rhan o’r DU. Mae’n cynnig rhywbeth i bob oed, gan ddathlu sbectrwm eang o gerddoriaeth jazz a blues traddodiadol a chyfoes, wedi’i seilio o amgylch dwy o dafarndai nodedig y dref. Mae'r ŵyl yn dechrau ar y nos Wener ac yn gorffen yn hwyr brynhawn dydd Sul. 

Mae'n benwythnos cerddorol gwych - gyda dilynwyr ffyddlon ac newydd - ac mae eleni'n argoeli i fod yr un mor gyffrous â blynyddoedd blaenorol. Felly bachwch docyn ac ymunwch yn yr hwyl.

jazzatllandeilo.com

Gŵyl y synhwyrau (bob Tachwedd)

Mae Gŵyl Synhwyrau Llandeilo yn ŵyl flynyddol am ddim sy'n lansio tymor y Nadolig. Wedi’i lleoli ar draws y dref, mae’r ŵyl yn cwmpasu siopau, tafarndai, caffis a bwytai’r dref yn ogystal â chynnig stondinau crefft a ffasiwn, stondinau bwyd, bysgwyr, adloniant a mwy. Ymunwch â ni yn Llandeilo fis Tachwedd yma, er mwyn mwynhau ysbryd yr Ŵyl.

fos.cymru

bottom of page