top of page
adcc1992d0f731fae991b6199a7046dd.jpg

EIN STORI

"Bydd plant yn eich cofio, nid am y pethau materol a gafwyd, ond am y profiadau wnaeth eu meithrin"! Mi wnaethon ni gartref newydd i'n hunain yn Nyffryn Tywi nôl yn 2014, er mwyn i'n plant brofi'r magwraeth gwledig gafon ni yn ein hieuenctid. 

Mae 'na hanes ym mhob twll a chornel o'r ardal hynod hon, gyda chestyll a cheiri yn frith ar draws y tirwedd prydferth. Agorwch eich drws ffrynt (neu gynfas) ac archwiliwch y wlad!

Croeso i'r Bannau!

FFERM GELLI GROES

Fferm ddefaid a llaeth oedd Gelli Groes, oedd yn eiddo i deulu Herbert ac Enid am genedlaethau lawer. Dywedwyd wrthynt unwaith gan ffrind "efallai nad ydych yn filiwnyddion, ond mae gennych olygfa filiwnydd!" Wedi’i lleoli o fewn Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, mae gan y fferm olygfeydd panoramig pellgyrhaeddol dros Ddyffryn Tywi, gyda chopa uchaf cadwyn mynyddoedd y Preselau, Foel Cwm Cerwyn, yn dirnod ar y gorwel gorllewinol ac anialwch mynyddoedd yr Elenydd i’r gogledd. Ceir tri chastell o fewn radiws o bum milltir, dau ohonynt o fewn pellter cerdded i'ch cartref oddi cartref, ac wedi'u cysylltu gan y myrdd o lwybrau cyhoeddus sy'n croesi'r hyn sydd heb os, yn dirwedd wirioneddol syfrdanol. Hyn i gyd, a dim ond ugain munud o draffordd yr M4!

IMG_20181121_151327.jpg
IMG_20190422_191835_Bokeh__01.jpg
IMG_20190422_193121.jpg
IMG_20190422_134509_Bokeh.jpg
Cestyll
IMG_1036.jpg
bottom of page