Croeso i Wlad y Cestyll!
Wedi'i leoli ar fryn uchel o fewn Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, gyda golygfeydd panoramig a phellgyrhaeddol, mae Gelli Glamping yn ddihangfa berffaith i'r rheiny sy'n caru'r awyr agored!
Ymwelwch â'n cestyll hynafol a mwynhewch golygfeydd godidog Dyffryn Tywi o'ch noddfa ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.
Ein pabell saffari mawreddog yw’r diweddaraf mewn glampio moethus, gydag un ystafell wely maint brenin, caban "cwtsh" maint brenin a dau wely sengl ar y llawr mesanîn.
Yn newydd ar gyfer 2022 mae pabell saffari ddwy ystafell wely, gydag ystafell ymolchi, cegin a thwba twym!
Ry'n ni, Carys a Rhodri yn awyddus i chi rannu ein cariad at yr ardal hynod hon, sy’n swatio ar ochr bryn diarffordd, ddwy filltir yn unig o dref brysur Llandeilo.
Hoffem i chi adael gydag atgofion parhaol o'r hyn sy gan Ddyffryn Tywi i'w gynnig; hanes hynod, golygfeydd godidog, bwyd blasus a “chroeso” cynnes Cymreig!