
Llandeilo - gwlad y cestyll
Mae gan Landeilo a chyffiniau Dyffryn Tywi rai o'r adeiladau mwyaf eiconig, hynafol a modern, yng Nghymru gyfan. Mae'r cefn gwlad hynod yn brolio caerau Tywysogion Cymreig y Deheubarth; o Gastell Dryslwyn, wedi'i drwytho yn hanes brad a gwaed; i brif sedd yr Arglwydd Rhys yng Nghastell Dinefwr; heb sôn am Gastell hudolus Carreg Cennen.
Mae prydferthwch syfrdanol Carreg Cennen yn benodol (sy’n gorwedd yn ansicr ar glogwyn serth, daith gerdded fer o’ch pabell), i'w gymharu â strwythur yr un mor syfrdanol ond modern yn is i lawr dyffryn prydferth y Tywi - tÅ· gwydr un darn mwya'r byd., yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Llanarthne.
Fel yr ardd fotaneg genedlaethol gyntaf i gael ei hadeiladu ym Mhrydain mewn 200 mlynedd, dyma ardd sy’n edrych i’r dyfodol yn ogystal â myfyrio ar y gorffennol. Mae ganddi dros 8,000 o blanhigion, sy'n addurno 560 erw o gefn gwlad. Mae gan y Gerddi raglen gynhwysfawr o weithgareddau, a gyda phlanhigion yn newid gydol y tymor, efallai y byddwch chi'n ddigon ffodus i weld blodau prin o blanhigion egsotig o bryd i'w gilydd sy'n denu sylw o bedwar ban byd. Ni ellir colli noddfa Adar Ysglyfaethus Prydain a agorwyd yn ddiweddar yn y Gerddi Botaneg, ac mae arddangosiadau hedfan yr eryr euraid yn rhywbeth y mae'n rhaid i bobl o bob oed eu gweld!
Gerllaw mae Gerddi Aberglasne sydd wedi bod yn ysbrydoliaeth i feirdd ac artistiaid ers bron i 550 o flynyddoedd ac yn y ganrif ddiwethaf, ffotograffwyr hefyd. Fe’i disgrifiwyd gan nifer fel yr ardd orau yng Nghymru!
Mae Llandeilo wedi'i bendithio â nifer o siopau hynafolion, masnachwyr annibynnol ac orielau celf. Mae ei strydoedd cul a’i hadeiladau hanesyddol deniadol yn caniatáu iddi gadw ei naws hen fyd, gyda’i dai Sioraidd tlws paent pastel, yn arwain i lawr i bont eiconig y dref. Gellir gweld hyn i gyd bron o noddfa eich cartref oddi cartref!



